Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o rwydwaith o wasanaethau sy'n ceisio cefnogi pobl ifanc wrth iddynt bontio i’w bywyd fel oedolion. Mae'r rhwydwaith ehangach hwn yn cynnwys Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Ehangach. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: gwasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau gyrfaoedd a chyflogaeth, gwasanaethau chwaraeon a hamdden yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector eraill. Darperir rhywfaint o gymorth Gwasanaethau Ieuenctid gan wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach yng Nghaerdydd.
Mae rhan hon y wefan wedi'i chynllunio i gynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad gan asiantaethau partner sy'n cynnig gwasanaethau arbenigol yn eu meysydd dethol. Os caiff pobl ifanc eu hysbysu'n briodol, gallant, yn eu tro, wneud penderfyniadau gwybodus ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r holl sefydliadau y cyfeirir atynt yn rai credadwy ac rydym yn sicrhau ein bod yn gwirio'r dolenni'n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch gyrchu cymorth yn effeithiol. Nid ni sy’n rhedeg y gwasanaethau hyn, os oes unrhyw faterion yn codi, cysylltwch â'r sefydliad. Os ydych yn sefydliad a hoffech gael eich cynnwys yn yr adran hon, cysylltwch â ni drwy e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.