Hyfforddiant Realiti Rhithwir ar Gangiau
Mae menter Realiti Rhithwir arloesol o'r enw "Penderfyniadau Realiti Rhithwir" hefyd yn cael ei chyflwyno, gan roi profiad ymdrochol i bobl ifanc sy'n eu galluogi i lywio cyfres o sefyllfaoedd heriol a gwneud penderfyniadau beirniadol mewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig. Mae'r dull ymarferol hwn o archwilio pynciau fel gangiau, meithrin perthnasau amhriodol, pwysau cyfoedion, a chamddefnyddio sylweddau, yn arfogi'r cyfranogwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eu dyfodol, mewn sefyllfaoedd go iawn.
Mae adborth cadarnhaol gan ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, wedi amlygu effeithiolrwydd y prosiectau, sydd wedi'u llunio gan ddefnyddio barn pobl ifanc. Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau'r rhaglenni, gan ddweud eu bod yn bodloni eu hanghenion o roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o'r arwyddion o feithrin perthnasau amhriodol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Nod y mentrau newydd hyn yw meithrin cymuned fwy diogel trwy rymuso unigolion ifanc i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd a herio dylanwadau dinistriol trosedd a thrais.
"Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr i bobl ifanc yn ein cymunedau ac mae'r mentrau arloesol hyn yn cryfhau ein penderfyniad ymhellach i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hieuenctid a chreu dyfodol mwy disglair a mwy diogel i bawb."