Mentora Ieuenctid
Amdanom ni
Mae Rhaglen Mentora Ieuenctid arobryn Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn brosiect ymyrraeth gynnar ac atal. Cyflwynir y rhaglen i ysgolion uwchradd a chymunedau daearyddol cyfagos, gyda'r ddarpariaeth ar gael yn Gymraeg hefyd. Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi’u nodi, neu sydd mewn perygl o ddod, yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. P'un a yw pobl ifanc o oedran ysgol neu wedi gadael yr ysgol, gallant dderbyn y cymorth hwn. Y diben yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu sydd mewn perygl o fod felly, a'u helpu i ail-ymgysylltu. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl ifanc 11-25 oed, sy'n cynnwys pobl ifanc mewn addysg brif ffrwd, sy’n cael addysg y tu allan i'r ysgol, y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, rhieni ifanc, neu unigolion sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Mae Mentoriaid Ieuenctid yn weithwyr Ieuenctid a Chymuned cymwys, ac yn defnyddio dull Gwaith Ieuenctid sy'n dechrau lle mae'r bobl ifanc. Maent yn meithrin cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymgysylltu gwirfoddol a, thrwy roi anghenion y person ifanc wrth wraidd eu gwaith, gall pobl ifanc oresgyn problemau a rhwystrau i wireddu eu llawn botensial.
'Roeddwn i eisiau dweud diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud i mi, yn wir, rwy'n golygu hynny o waelod fy nghalon, rydych chi wedi gwneud llawer i mi dros gyfnod byr o amser, rydych wedi fy helpu i ddatblygu ac aeddfedu ac anghofio'r hen fywyd yr oeddwn yn ei fyw. Diolch yn fawr, diolch am fod yno i mi pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, rwy'n ddiolchgar iawn' (Person Ifanc)
Sut mae’n gweithio?
Mae'r prosiect wedi'i gyfeirio o bolisi Llywodraeth Cymru, lle mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid wedi'i bennu i leihau nifer y bobl ifanc 11-25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant Cyflawnir hyn wrth i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a phartneriaid cenedlaethol gydweithio'n agos i nodi'n gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant drwy'r Proffil Asesu Bregusrwydd (PAB). Broceru cymorth a gweithio tuag at gyrchfan llwyddiannus yw prif nodau'r prosiect. Mae gan y Gwasanaeth Ieuenctid rôl hollbwysig i'w chwarae hefyd o ran darparu gweithwyr arweiniol i bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio, yn ogystal â chael gwybodaeth am bobl ifanc i gefnogi olrhain. I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth hon, cliciwch yma.
Gosodir Mentoriaid Ieuenctid mewn ysgolion a darpariaethau addysgol eraill, lle maent yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i helpu i nodi pobl ifanc drwy'r broses PAB. Yna darperir cymorth 1-1 yn seiliedig ar les, cyrhaeddiad a phresenoldeb y person ifanc. Mae'r ysgol, y person ifanc, neu weithwyr proffesiynol eraill, yn cyfeirio'r person ifanc drwy lenwi ffurflen atgyfeirio. I gael rhagor o wybodaeth am hyn cliciwch yma.
Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi'i gwblhau a'i gymeradwyo, bydd y Mentor Ieuenctid yn dechrau ar ei daith gyda pherson ifanc yn seiliedig ar berthynas wirfoddol. Drwy asesiad STAR, bydd y Mentor yn gweithio gyda'r person ifanc i helpu i nodi ei anghenion a chreu cynllun gweithredu. Mae'r cynllun hwn yn ceisio datblygu'r person ifanc drwy gyfres o gamau sy'n mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysylltu. Bydd y person ifanc yn derbyn cymorth wythnosol mewn lleoliad sydd fwyaf addas iddo, a all gynnwys ei gartref, ysgol neu yn y gymuned. Bydd y cymorth 1-1 yn parhau hyd nes y bydd y person ifanc naill ai’n barod i fynd yn ôl i'r ysgol, wedi gwneud gwelliannau yn ei fywyd neu wedi symud ymlaen i Gyflogaeth, Addysgu neu Hyfforddiant.
Gyda phwy fyddwn ni’n gweithio
Er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys: teuluoedd pobl ifanc, ysgolion, Gyrfa Cymru, darparwyr addysgol eraill, y Gwasanaeth Lles Emosiynol, Gwasanaethau Plant, gwasanaethau cyflogaeth, grwpiau cymunedol, Clybiau Ieuenctid a sefydliadau'r trydydd sector.
'Dwi wrth fy modd bod Kyle wedi cwblhau'r cwrs ac wedi gwneud yn dda gyda'i ganlyniadau arholiadau eraill!’ (Rhiant)
Cyllidwyr
Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gael ei gynnig i bobl ifanc yn y ddinas, mae'r prosiect yn defnyddio amrywiaeth o gyllid. Mae’r rhain yn cynnwys: Cronfa Gymdeithasol Ewrop Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cyngor Caerdydd a Teuluoedd yn Gyntaf.
Pam Mentora Ieuenctid?
Mae ein dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar atebion yn helpu pobl ifanc i:
- Nodi eu sgiliau a’u galluoedd unigol
- Goresgyn ffactorau neu anawsterau sy'n eu hatal rhag cyflawni eu potensial
- Gwneud eu dewisiadau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
- Nodi cyrsiau addysg neu hyfforddiant addas
- Derbyn y gwasanaethau iawn y mae eu hangen arnynt
- Datblygu perthynas gadarnhaol a ddarparwyd
- Cael yr amser a'r sylw ymroddedig y maent yn ei haeddu
- Dod o hyd i gyfleoedd priodol
- Gwella eu gwydnwch
- Datblygu eu lles, eu cyrhaeddiad a'u presenoldeb unigol