Atgyferiaida
Sut mae’n gweithio
P'un a ydych yn gweithio gyda phobl ifanc o ddydd i ddydd neu'n ffrind i'r teulu, os ydych yn adnabod rhywun sydd angen hwb i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau, gallwn weithio gyda chi i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy ein rhaglen Mentora Ieuenctid. Credwn y gall pob person ifanc gyflawni ei botensial gyda'r cyfleoedd cywir a chymorth wedi'i deilwra sy'n diwallu eu hanghenion.
Pwy all atgyfeirio?
- Rhiant / Gwarcheidwad
- Person ifanc
- Sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc
Sut i atgyfeirio
Mae atgyfeirio person ifanc yn broses syml. Bydd angen i chi lenwi un o'r ffurflenni atgyfeirio canlynol, yn dibynnu ar oedran y person ifanc rydych ei atgyfeirio. Os ydych yn gwneud atgyfeiriad ar gyfer person ifanc sydd o oedran ysgol, llenwch y ffurflen atgyfeirio hon: ffurflen cymraeg.
Dyma PDF yn disgrifio y broses: pdf y broses
Os ydych yn cyfeirio person ifanc sydd wedi gadael yr ysgol, yna llenwch y ffurflen atgyfeirio hon EIP ffurflenni atgyfeirio.pdf a hefyd Ffurflen atgyfeirio ar-lein ar gyfer Ôl-16 (diweddarwyd ym mis Gorffennaf 2024 .