Grantiau Datblygiad Newydd Ieuenctid
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig chwe grant i sefydliadau ieuenctid y trydydd sector yng Nghaerdydd i sicrhau bod gweithgarwch Gwaith Ieuenctid ar gael i bobl ifanc 11-25 oed mewn cymunedau a bod gweithwyr ieuenctid ar gael i'w cefnogi. Mae pob sefydliad yn gwneud cais am arian drwy'r cynllun ac fe'u cefnogir i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc yng Nghaerdydd
YMCA
O'n canolfan gymunedol, mae YMCA Plas, YMCA Caerdydd yn darparu nifer o weithgareddau i bobl ifanc. Mae ein Clwb Ieuenctid yn cynnig lle i bobl ifanc gael cymorth gan weithwyr ieuenctid hyfforddedig bob nos Iau rhwng 4pm ac 8pm. Bydd gan bob sesiwn clwb ieuenctid nifer o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon/ymarfer corff, celf a chrefft a gweithdai sy'n seiliedig ar broblemau. Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Twitter ac Instagram yn @YMCACardiffYouthProvisions neu ewch i'r wefan cliciwch yma
Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon
Mae canolfan ieuenctid De Glan-yr-afon yn cynnig ystod eang o raglenni a gweithgareddau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r ddau glwb ieuenctid yn cael eu staffio gan weithwyr ieuenctid cymwysedig, ac maent ar agor nos Lun a nos Iau rhwng 6.00pm a 8.30pm. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch Steve Khaireh ar 07447070966 neu ewch i'r wefan cliciwch yma
YR URDD
Clwb Ieuenctid ar-lein yn lleol i ardal Caerdydd a'r Fro, mae croeso i unrhyw un ym mlynyddoedd 7-9pm. Dewch i ymuno yn yr hwyl a cyfarfod ffrindiau newydd mewn awyrgylch ddiogel.
ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth cliciwch yma
Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)
Mae cynnig ieuenctid ACE yn seiliedig ar waith ar y stryd, cwrdd â'r bobl ifanc yn eu hamgylchedd, deall eu bywydau, eu hanghenion a'u teimladau bob dydd. Mae'r dull hwn yn caniatáu cwrdd â phobl ifanc sydd wedi ymbellhau o'u hysgolion, eu cartrefi neu eu cymuned ehangach. Rydym yn cyfeirio at wasanaethau sydd ar gael gyda'r gobaith o greu cyfleoedd.
Rydym yn cynnig ein gwasanaethau ar Ddydd Llun a Dydd Gwener yn Nhrelái a Chaerau 5-8pm, lle byddwn yn defnyddio amrywiad ar Fan Ace a gwaith ar y stryd o 5pm tan 8pm yn ymweld â mannau poblogaidd, yn cynnig cyngor, codi arwyddion a’r gwasanaeth cerdyn C.
Dydd Mawrth a dydd Iau 5-8pm rydym yn cynnig gwaith ar y stryd yn ardal y Tyllgoed.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol: Facebook @AceYouthOffer Instagram: @AceYouth e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ewch i’r wefan cliciwch yma
Canolfan Gymunedol Cathays
Canolfan Gymunedol Cathays
Mae Canolfan Gymunedol Cathays yn cynnal amrywiaeth o glybiau ieuenctid drwy'r Grantiau Arloesi Ieuenctid.
Cynhelir Clwb Ieuenctid Embassy (EYC) bob dydd Llun 6-8:30pm. Mae hwn yn glwb mynediad agored i unrhyw un 11-25 oed. Ry’n ni’n cynnig cyfleoedd mewn amgylchedd cynhwysol a hwyl i berfformio yn ein stiwdios cerddoriaeth, dysgu sgiliau fel coginio, chwarae gêmau chwaraeon a chwrdd â ffrindiau newydd. Ar hyn o bryd, mae EYC yn cael ei gyflwyno ar-lein dros Zoom. Mae sesiynau'n cynnwys pethau fel cwisiau, gêmau fideo, coginio, dawnsio, ymarfer corff, ioga, nosweithiau gêmau a karaoke.
Mae Impact yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 5-7pm. Clwb LHDTC+ yw hwn, sydd ar agor i bobl ifanc sy'n uniaethu fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a'r rhai sy'n cwestiynu neu'n ansicr ynglŷn â'u hunaniaeth rhywedd a/neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae gennym ddau grŵp, ar gyfer y rhai 11-16 oed a 17+. Fel arfer, byddem yn cynnal perfformiadau yn y Ganolfan y byddem yn creu propiau ar eu cyfer mewn sesiynau celf a chrefft, yn mynd ar deithiau dydd ac yn cynnal gweithdai ar amrywiaeth o bynciau mewn man diogel i siarad am y materion sy'n bwysig i chi. Fodd bynnag, ry’n ni wedi bod yn cyfarfod bob dydd Mawrth dros Discord ers dechrau'r cyfnod clo. Os ydych am ddod i ymuno â ni, anfonwch e-bost atom; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu cysylltwch â ni drwy ein tudalen Facebook; https://www.facebook.com/ImpactCardiff
Nos Wener 6-9pm ry’n ni’n rhedeg y Ddarpariaeth Ieuenctid Gynhwysol, ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i chwarae chwaraeon, gwneud cerddoriaeth, a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae hwn yn cael ei redeg fel partneriaeth rhwng CCYCP a Chyngor Caerdydd.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r clybiau hyn, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch 029 2037 3144. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Twitter (@ccycp1) neu Facebook (ccycp) neu ewch i'n gwefan - cliciwch yma
Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gymryd rhan mewn rhaglenni a phrosiectau ar draws dinas Caerdydd. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhaglenni addysgol yn ein Canolfannau ar draws y ddinas ac mae rhywbeth i bawb; os ydych chi eisiau cymryd rhan neu eisiau ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau, dyma’r lle i fod.
Rydym hefyd yn darparu rhaglenni pwrpasol sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu neu gynyddu sgiliau sydd ganddynt, sy'n allweddol wrth ddatblygu hyder, cymhelliant, datrys problemau, gwaith tîm, sicrhau y caiff eu llais ei glywed, cynllunio gweithredu a gosod nodau a fydd oll yn gwella eich CV neu geisiadau am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol.