Mentora Ieuenctid Ôl-16
Amdanom ni
Rydym yn cynnig cymorth un-i-un i bobl ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, mae'r Prosiect Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 yn brosiect hirsefydlog a llwyddiannus a ariennir gan Teuluoedd yn Gyntaf sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd. Nod y tîm yw targedu pobl ifanc ddi-waith ac economaidd anweithgar, 16 + oed, o bob rhan o Gaerdydd. Maent yn cynnig dull wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n ceisio helpu i bennu a dileu rhwystrau personol. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i barhau i ymgysylltu'n barhaus ag addysg, hyfforddiant neu'r farchnad lafur gyflogedig. Mae ein tîm yn weithwyr Ieuenctid a Chymunedol cymwys, sy'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc ac asiantaethau partner. Rydym yn cynnig gwasanaeth atgyfeirio am ddim i oresgyn y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu, a'u cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
'Mae’r broses Mentora Ieuenctid wedi helpu i ddatblygu fy hyder yn aruthrol drwy ymgymryd â heriau newydd fel dysgu gyrru, gwneud cais i fynd i’r coleg gyda'r uchelgais o fod yn nyrs. Rwyf wedi bod yn rhan o'r holl benderfyniadau ac mae nhw hefyd wedi fy helpu i wneud penderfyniadau, ac wedi bod yn agored ac yn onest. (Person ifanc)
Dull Mentoriaid Ieuenctid
Mae'r broses Mentoriaid Ieuenctid wedi’i seilio ar berthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, a ffurfir drwy ymgysylltu gwirfoddol. Mae pob mentor yn mabwysiadu dull anfeirniadol a thrylwyr sy'n annog pobl ifanc i gyfrannu at eu nodau a'u dyheadau personol a gwneud penderfyniadau allweddol arnynt. Mae ein dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn caniatáu i unigolion sy'n barod ar gyfer addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ynghyd â'r rhai sydd bellaf i ffwrdd, gael y cymorth priodol.
Sut y gall Mentoriaid Ôl-16 helpu
Nod Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 yw gwrando, cefnogi a sefydlu cynlluniau gweithredu personol a fydd yn galluogi pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau addysgol, hyfforddiant neu yrfaol.
Gall Mentor Ieuenctid helpu pobl ifanc i:
- Sicrhau mwy o eglurder a dealltwriaeth o addysg cyflogaeth neu hyfforddiant a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
- Nodi sgiliau a galluoedd unigol.
- Dileu'r rhwystrau i unrhyw nodau a dyheadau addysg cyflogaeth neu hyfforddiant yn y dyfodol.
- Creu atebion personol i broblemau a nodwyd, gyda chymorth.
- Gwneud eich dewisiadau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
- Nodi cyrsiau addysg neu hyfforddiant addas.
- Cael mynediad at Gwricwla Ôl-16 / sesiynau grŵp pwrpasol yn seiliedig ar anghenion a nodwyd.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau i wella sgiliau neu weithio tuag at achrediad.
- Cysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid ehangach.
- Cael gafael ar y gwasanaethau angenrheidiol.
- Dod o hyd i gyfleoedd priodol.
- Creu a thrawsnewid cynlluniau'n weithredoedd ac, yn bwysicaf oll, llwyddiant.
Bydd unrhyw berson ifanc sy'n cael ei atgyfeirio a'i dderbyn yn llwyddiannus i'r Gwasanaeth Ôl-16 yn cael Mentor Ieuenctid Ôl-16 cymwys a phrofiadol, a bydd yn cyfarfod ag ef yn rheolaidd ar sail un-i-un.
'Roedd e (Mentora Ieuenctid)... yn ddefnyddiol iawn i siarad am fy mhroblemau. Cefais lawer o help i gael arian budd-daliadau. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus ac rwy'n meddwl am fy nyfodol mewn ffordd fwy cadarnhaol' (Person Ifanc)
Os hoffech gysylltu â'n tîm, gallwch ddod o hyd i'n cyfryngau cymdeithasol, e-bost a'n rhif cyswllt isod.