Cymryd Rhan
Mae nifer o ffyrdd y gallwch ymwneud â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Os ydych yn berson ifanc 11-25 oed, beth am ddod yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid? Cewch eich cefnogi gan ein tîm Gwaith Ieuenctid a cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau newydd. Canfod sut gallwch ddod yn aelod o’r gwasanaeth ieuenctid.
Mae ein gwasanaeth yn ceisio rhoi cyfleoedd sy'n cefnogi gwirfoddolwyr i weithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau, gan eu hannog i chwarae rhan mewn newid bywydau pobl ifanc. Mae gyrfaoedd Gwaith Ieuenctid yn aml yn dechrau gyda chlybiau ieuenctid a gwirfoddolwyr sy'n darparu gweithgareddau, arweiniad a sgiliau bywyd i bobl ifanc! Mae'r cyfan yn dechrau gyda chi ac rydym yma i helpu. Gallwn hefyd helpu pobl ifanc i ystyried cyfleoedd gwirfoddoli eraill, a chyfeirio at sefydliadau eraill. Rhagor o wybodaeth ar wirfoddoli gyda ni.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau cyffrous ac amrywiol i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o Lefel 2 hyd at Lefel 7. Mae'r holl leoliadau wedi'u strwythuro o amgylch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac maent yn bodloni gofynion y cwrs perthnasol. Rhagor o wybodaeth ar ein cyfleon o ran lleoliadau gwaith.
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer rolau amrywiol o fewn y gwasanaeth, o Weithwyr Cymorth Ieuenctid i Uwch Swyddogion Ieuenctid. Cliciwch Canfod pa swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd.