Written by CYS. Posted in Cynnwys Cyffredinol
Ynghylch
Mae Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn ganolfan brysur yng nghanol y gymuned STAR, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a chelfyddydol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae gennym stiwdio gerddoriaeth a neuadd theatr lle gallwch fynd i’r afael â gwneud eich cerddoriaeth eich hun neu gymryd rhan mewn sioeau. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc.
Mae'r ganolfan hefyd yn cefnogi sefydliadau eraill i weithio yn y gymuned, gyda gwasanaethau i mewn i waith yn cynnig hyfforddiant a chymorth cyflogaeth a chwmni ‘Ministry of Life Education’ yn darparu cyrsiau cerddoriaeth BTEC.
"Rwyf wedi bod yn colli Eastmoors yn ystod y cyfnod cloi, y rhyngweithio â staff a gwrando ar gerddoriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at gynllunio teithiau i barciau thema a cherdded i fyny mynyddoedd a dod yn uwch arweinydd." (Person ifanc)
Oriau Agor
Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.
Mae'r ganolfan ar agor ar nos Fawrth ar gyfer clwb ieuenctid iau ac ar ddydd Iau a dydd Gwener ar gyfer aelodau hŷn y clwb ieuenctid.
Dydd Mawrth Plant Iau (Bl 6, 7+8) 6-9pm
Dydd Iau Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
Dydd Gwener Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
"Mae llawer o bethau y galla i eu dweud am Eastmoors gyda'r atgofion rydw i wedi'u cael yno dros beth amser. Rydw i wedi gweld staff yn gadael a staff yn dod ond staff gorau Eastmoors yw'r rhai sydd gyda nhw nawr, y rhai sy'n gallu cymryd jôc ond sy'n gallu bod o ddifrif ar adegau ond y rhan orau yw sut maen nhw'n eich cefnogi i gael y dyfodol rydych chi ei eisiau." (Person ifanc)
Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod:
Print
Written by CYS. Posted in Cynnwys Cyffredinol
Ynghylch
Mae Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái yn ganolfan brysur yng nghalon cymuned Trelái, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a gweithgareddau corfforol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae gennym stiwdio gerddoriaeth a llwyfan ble gallwch wneud cerddoriaeth a pherfformio sioeau. Mae gennym hefyd ardd ble gallwch ddysgu tyfu ffrwythau a llysiau a mynd am dro yn ein llwybr natur. Rydym wedi cael perthynas hirsefydlog â Chanolfan Ieuenctid Stamheim yn Stuttgart ac rydym yn croesawu grwpiau’n rheolaidd ac yn ymweld â'r Almaen. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc.
Mae Canolfan Gweithgareddau Ieuenctid Gogledd Trelái yn gweithio gyda phartneriaid allweddol megis: Dechrau'n Deg, Gwasanaethau Chwarae, grwpiau Eglwysig lleol ac aelodau o'r gymuned. Y diben yw cynnig cyfleoedd lleol i Blant, Pobl Ifanc a'r gymuned.
O oedran .. rydw i wastad wedi mwynhau mynd i Ogledd Trelái. Mae'n fan ble gallwch deimlo'n gyfforddus yn bod yn chi eich hun, tra bod gennych weithwyr ieuenctid anhygoel i'ch cefnogi gydag unrhyw beth rydych yn ei wynebu. Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau, cymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau a hyd yn oed fynd ar gyfnewidfa ieuenctid! (Person ifanc)
Oriau Agor
Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.
Dydd Mawrth Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
Dydd Iau Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
Dydd Gwener Plant iau (Bl 6, 7+8) 5.30-8.30pm
Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod:
Print