Mae gwirfoddoli yn galluogi pobl i chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas, cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol, a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Bydd ein cyfleoedd gwirfoddoli yn eich galluogi i gael profiadau mewn lleoliadau Canolfannau Ieuenctid, gan weithio gydag amrywiaeth o bobl ifanc. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i weithio tuag at gymwysterau Gwaith Ieuenctid achrededig. Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich canolfan ddewis i gael gwybod mwy (cliciwch yma).
Arweinwyr Ifanc
Mae ein rhaglen Arweinwyr Ifanc yn caniatáu i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a chyfrifoldebau pwysig. Mae'r sgiliau a'r cyfrifoldebau hyn yn angenrheidiol gan fod arweinwyr ifanc yn chwarae rhan bwysig yn y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i bobl ifanc.
Mae dod yn arweinydd ifanc yn fraint; ymrwymo eich hun i'r rôl hon yn benderfyniad pwysig i'w wneud. Er mwyn cael rôl arweinydd ifanc y gwaith ieuenctid, bydd angen i chi:
- fod â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc
- bod ag amser i’w gynnig
- bod yn anfeirniadol
Fel arweinydd ifanc, mae'n debygol y byddwch yn gwneud amrywiaeth o swyddi fel:
- rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid
- gweithio fel rhan o'r tîm gwaith ieuenctid
- cyfrannu tuag at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau gwaith ieuenctid
I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich ardal (cliciwch yma).
Gwirfoddoli ehangach
Mae sawl ffordd o roi o'ch amser i helpu eraill – o gael paned o de gyda chymydog oedrannus, i helpu yn eich ardal leol, neu wneud ymrwymiad rheolaidd i wirfoddoli gydag elusen neu grŵp cymunedol. Gall ein staff eich cefnogi i nodi lleoliad addas drwy nodi eich sgiliau, yn ogystal â gweithio gyda grwpiau gwirfoddoli a sefydliadau'r trydydd sector. Gall gwirfoddoli eich galluogi i gwrdd â phobl newydd, ennill sgiliau newydd a chael amrywiaeth o brofiadau newydd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.