Gallwch ddod yn aelod o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd os ydych yn berson ifanc 11-25 oed, ac yn dymuno cymryd rhan yn unrhyw un o'r gwasanaethau a gynigiwn gan ganolfannau ieuenctid. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: gwaith ar y stryd, mentora ieuenctid, gwaith digidol a Chyngor Ieuenctid Caerdydd.
Fel aelod byddwch yn cael y cyfle i:
- Gael cymorth gan ein tîm Gwaith Ieuenctid cymwysedig
- Cael amrywiaeth o brofiadau newydd
- Cael eich llais wedi'i glywed a chael eich gwrando arnoch
- Cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu newidiadau sy'n effeithio ar bobl ifanc
- Cael cymorth gyda'ch datblygiad addysgol, cymdeithasol a phersonol
Dim ond rhai o'r cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig yw’r rhain! Gallwch hefyd gymryd rhan mewn cymaint mwy o bethau.
Mae'r cyfan yn dechrau gyda llenwi ffurflen aelodaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, a fydd yn cymryd llai na phum munud i'w llenwi!