Ynghylch
Mae Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn ganolfan brysur yng nghanol y gymuned STAR, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a chelfyddydol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae gennym stiwdio gerddoriaeth a neuadd theatr lle gallwch fynd i’r afael â gwneud eich cerddoriaeth eich hun neu gymryd rhan mewn sioeau. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc.
Mae'r ganolfan hefyd yn cefnogi sefydliadau eraill i weithio yn y gymuned, gyda gwasanaethau i mewn i waith yn cynnig hyfforddiant a chymorth cyflogaeth a chwmni ‘Ministry of Life Education’ yn darparu cyrsiau cerddoriaeth BTEC.
"Rwyf wedi bod yn colli Eastmoors yn ystod y cyfnod cloi, y rhyngweithio â staff a gwrando ar gerddoriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at gynllunio teithiau i barciau thema a cherdded i fyny mynyddoedd a dod yn uwch arweinydd." (Person ifanc)
Oriau Agor
Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.
Mae'r ganolfan ar agor ar nos Fawrth ar gyfer clwb ieuenctid iau ac ar ddydd Iau a dydd Gwener ar gyfer aelodau hŷn y clwb ieuenctid.
Dydd Mawrth Plant Iau (Bl 6, 7+8) 6-9pm
Dydd Iau Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
Dydd Gwener Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm
"Mae llawer o bethau y galla i eu dweud am Eastmoors gyda'r atgofion rydw i wedi'u cael yno dros beth amser. Rydw i wedi gweld staff yn gadael a staff yn dod ond staff gorau Eastmoors yw'r rhai sydd gyda nhw nawr, y rhai sy'n gallu cymryd jôc ond sy'n gallu bod o ddifrif ar adegau ond y rhan orau yw sut maen nhw'n eich cefnogi i gael y dyfodol rydych chi ei eisiau." (Person ifanc)
Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod: