Dweud Eich Dweud
Dweud Eich Dweud!

Dweud Eich Dweud!

Rydyn ni eisiau gweld eich ochr greadigol!

Yn galw ar bawb 11-25 oed, Rydym yn chwilio am straeon, podlediadau, blogiau, erthyglau, barddoniaeth, vlogs, posteri, graffeg, ffotograffiaeth, celf, cerddoriaeth, ffilmiau! Cael eich cynnwys yn cael ei roi ar ein Blog!

Cymrwch ran drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.!

Diogelu
YPSafeguarding - Widget

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2

6 Goals

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

                                                                                                           Edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

  • Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel, yn hapus ac yn ffynnu.

    Rydym yn cydnabod bod angen dull pwrpasol i sicrhau diogelwch pobl ifanc yn eu harddegau yn ein dinas. Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau y bydd pobl ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd yn teimlo’n ddiogel ac y byddant yn ddiogel. Gwyliwch y fideo isod, cliciwch ar y nodau uchod neu darllenwch y cynllun llawn drwy glicio ar y ddolen isod.


  • Pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel.

    Young people feel safe, understand how to keep safe and how to assess risk. Increased cultural awareness and professional understanding of a young person’s life history Improved information sharing between professionals, utilising existing tools (i.e. My Concern) to share concerns, collate and map ‘collective risk’ and reduce the number of times young people need to ‘tell their story’ Reviewed policies relating to safeguarding adolescents and redeveloped process and procedures linked to extra-familial risks. Established opportunities for multiagency partners to discuss and share information and intelligence relating extra-familial contexts and overlapping vulnerabilities. Increased peer led support work for young people- a lived experience can be more valuable than professional expertise. Mae pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel, yn deall sut i gadw’n ddiogel a sut i asesu risg. Mwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dealltwriaeth broffesiynol o hanes bywyd person ifanc. Rhannu gwybodaeth yn well rhwng gweithwyr proffesiynol, defnyddio offer presennol (h.y. My Concern) i rannu pryderon, coladu a mapio risg ar y cyd a lleihau nifer yr adegau y mae angen i bobl ifanc adrodd eu hanes. Adolygu polisïau sy’n perthyn i ddiogelu’r glasoed ac ailddatblygu prosesau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â risgiau y tu allan i’r teulu. Sefydlu cyfleoedd i bartneriaid amlasiantaethol drafod a rhannu gwybodaeth sy’n perthyn i gyddestunau y tu allan i’r teulu ac agoredrwydd i niwed sy’n gorgyffwrdd. Mwy o waith cymorth dan arweiniad cyfoedion i bobl ifanc, oherwydd gall profiad bywyd fod yn fwy gwerthfawr nag arbenigedd proffesiynol


  • Gan bobl ifanc iechyd da (corfforol a meddyliol) a lles

    Mae gan staff y sgiliau i adnabod ac ymateb yn effeithiol ac yn briodol i anghenion iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc. Mae ymarferwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc a’u cefnogi i gael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt. Mae staff yn parhau i gymryd rhan fel ffactor cefnogol drwyddi draw. Mae staff yn ymwybodol o ymagwedd sy’n seiliedig ar berthnasoedd a thrawma at ymarfer. Datblygu cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw gyda chamdefnyddio sylweddau(Rhaglen CRAFT) Mae gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod ganddynt fynediad at gyfleoedd a seibiant.


    >
  • Pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu haddysgu am risg, yr arwyddion i’w hadnabod a sut i’w datrys.

    Mae gan weithwyr proffesiynol, gofalwyr teuluol a phob ifanc eu hunain ddealltwriaeth gadarn o ddiogelu cyd-destunol a ffactorau risg cysylltiedig. Bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn gwybod sut i aros yn ddiogel ar-lein, mwy o ymwybyddiaeth o seiber-droseddu, meithrin perthynas amhriodol a throseddau cyfeillio. Asesiadau risg ac ymyriadau gwell sydd wedi’u haddasu er mwyn darparu cyfleoedd yn rheolaidd i adlewyrchu barn a safbwyntiau y glasoed eu hunain. Datblygu mecanweithiau a phrosesau gwell er mwyn gweithio’n well gyda rhieni/ gofalwyr fel partneriaid er mwyn diogelu’r glasoed.


  • Bydd yr holl bobl ifanc yn cael mynediad at addysg a gweithgareddau a fydd yn eu helpu i baratoi at eu dyfodol.

    Increasing access to meaningful social, non-formal, informal learning via youth services for young people in their communities. An embedded prevention and ‘place-based’ system that ensures key ‘adolescent services’ are collaborating in order to target services to the right person at the right place and at the right time. Improved governance and alignment of adolescent services – Pulling together all key services working with young people across the City including voluntary and third sector organisations. Enhanced education, support and mentoring for young people, with particular reference to good sex and relationship education, employability skills and education which is directly linked to an offer of employment, including young people who may be excluded from education/on reduced timetable. Enhance the Into Work offer to provide support. Increased coordinated services for supporting young people in to work. Improved connections with employment services to support young people who are not wishing to transition into further education Cynyddu mynediad at dysgu cymdeithasol, heb fod yn ffurfiol ac yn anffurfiol drwy wasanaethau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc yn eu cymunedau. System atal wedi’i gwreiddio ac yn ‘seiliedig ar le’ sy’n sicrhau bod gwasanaethau allweddol i’r glasoed yn cydweithio er mwyn targedu gwasanaethau at y person cywir yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir. Gwell llywodraethu ac alinio gwasanaethau i’r glasoed, gan dynnu ynghyd yr holl wasanaethau allweddol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar draws y ddinas gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector. Gwell addysg, cymorth a mentora i bobl ifanc, gan gyfeirio’n benodol at addysg perthnasoedd a rhyw, sgiliau cyflogadwyedd ac addysg sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chynnig cyflogaeth, gan gynnwys pobl ifanc sydd o bosibl wedi’u heithrio o addysg/ ar amserlen lai. Gwella’r cynnig I Mewn i’r Gwaith er mwyn darparu cymorth. Mwy o wasanaethau cydgysylltiedig i gefnogi pobl ifanc i mewn i’r gwaith. Gwell cysylltiadau gyda gwasanaethau cyflogaeth i gefnogi pobl ifanc nad ydynt yn dymuno pontio i addysg bellach


  • Cartref sefydlog i bob person ifanc a chefnogaeth gan gymuned.

    Opsiynau llety gwell i bobl ifanc, wedi’u lleoli mewn lleoedd y maent yn eu hadnabod, yn agos at ganol rhwydweithiau a chymorth. Cymorth tenantiaeth ymarferol a pharhaus. Datblygu rhaglenni ataliol a gwella’r broses o adnabod ac ymyrryd yn gynnar er mwyn atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref. Mwy o gyfryngu gyda theuluoedd ar yr adeg gywir er mwyn osgoi argyfwng. Bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi i deimlo’n hyderus ac yn emosiynol barod i fyw’n annibynnol os bydd angen.


  • Pobl ifanc cael profiad o bontio cadarnhaol, byddant yn derbyn arweiniad i oresgyn eu brwydrau a chymorth i addasu i newidiadau

    Pontio gwell, gan gyfeirio’n benodol at bontio ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc ar ôl 18 oed. Gwasanaethau gwell i gefnogi oedolion ifanc 18+ sy’n cael eu hecsbloetio neu sydd wedi cael eu hecsbloetio. Cymorth estynedig y tu hwnt i 21 oed i mewn i fod yn oedolyn os bydd angen. Pontio a throsglwyddo achosion yn well i ddiogelu oedolion. Gwell gweithio rhwng Gwasanaethau Ieuenctid, Plant ac Oedolion er mwyn rhannu arfer gorau. Gwell cymorth pontio ar gyfer anghenion pobl ifanc sy’n ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol, gan gynnwys carchardai, cartrefu diogel a goruchwyliaeth y gwasanaeth prawf/gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid. Pecyn cymorth gwell ar gyfer pobl ifanc fel rhieni ifanc.


 

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Mae’r dull hwn yn cynrychioli’r amrywiaeth eang o ran barn, profiadau ac arbenigedd gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc sy’n rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Cafodd y wybodaeth ei chasglu i ffurfio strategaeth a fydd yn helpu Cyngor Caerdydd i ffurfweddu ein gwasanaethau, ein hymagweddau a’n polisïau yn raddol i ddiogelu’r glasoed, pwysleisio meysydd allweddol o arfer diogelu’r glasoed, a’n galluogi i ddangos tystiolaeth o’n hymroddiad i gadw pobl ifanc yn ddiogel yng Nghaerdydd I darllen y plan llawn Clico yma.

Darllen Mwy

 

 

 

Print

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i http://cardiffyouthservices.wales/cy/ a http://cardiffyouthservices.wales/.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd.  Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinell na bwlch rhwng y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • ni allwch sgipio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
  • mae terfyn ar ba mor bell y gallwch chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltu â ni'

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch ni neu e-bostiwch ni i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Dyma ein manylion cyswllt:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rydym yn gweithio ar sicrhau bod ein gwefan mor hygyrch â phosibl.  Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fan sydd angen ei wella yn eich barn chi, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Baich anghymesur

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid oes modd sgipio'r cynnwys sy’n ailadrodd ym mhrif bennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'sgipio i’r prif gynnwys').

Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.

Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig Er enghraifft, oherwydd nad oes tagiau ‘label’ ar rai rheolaethau ar ffurflenni.

Mae ein ffurflenni'n cael eu hadeiladu a'u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a'u gwneud i edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael gafael ar wybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn  faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwi yn barod i’w adnewyddu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF ac eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.  Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw:

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod   fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Ein nod yw diweddaru a gwella'r wefan hon yn gyson, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am safonau a chanllawiau hygyrchedd.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fannau o'n gwefan nad ydynt yn bodloni canllawiau mynediad, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Print

Atgyfeiriadau

Sut mae’n gweithio

P'un a ydych yn gweithio gyda phobl ifanc o ddydd i ddydd neu'n ffrind i'r teulu, os ydych yn adnabod rhywun sydd angen hwb i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau, gallwn weithio gyda chi i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy ein rhaglen Mentora Ieuenctid. Credwn y gall pob person ifanc gyflawni ei botensial gyda'r cyfleoedd cywir a chymorth wedi'i deilwra sy'n diwallu eu hanghenion.

Pwy all atgyfeirio?

  • Rhiant / Gwarcheidwad
  • Person ifanc
  • Sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc

Sut i atgyfeirio

Mae atgyfeirio person ifanc yn broses syml. Bydd angen i chi lenwi un o'r ffurflenni atgyfeirio canlynol, yn dibynnu ar oedran y person ifanc rydych ei atgyfeirio. Os ydych yn gwneud atgyfeiriad ar gyfer person ifanc sydd o oedran ysgol, llenwch y ffurflen atgyfeirio hon: New_EIP_Form_v1point3_FINAL.pdf. Os ydych yn cyfeirio person ifanc sydd wedi gadael yr ysgol, yna llenwch y ffurflen atgyfeirio hon  EIP_Referral_Form_Post_16.docx .

Print

Lleoliadau Myfyrwyr

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau cyffrous ac amrywiol i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o Lefel 2 hyd at Lefel 7.  Mae'r holl leoliadau wedi'u strwythuro o amgylch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac maent yn bodloni gofynion y cwrs perthnasol. 

Cynigir cyfleoedd lleoli ar draws holl Dimau'r Gwasanaeth Ieuenctid.  Anogir lleoliad ar ffurf carwsél i alluogi myfyrwyr i gael profiad mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, gan ddefnyddio gwahanol fathau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc.   

Mae pob lleoliad wedi'i deilwra i'r myfyriwr unigol, a darperir cymorth ar ffurf mentora a goruchwylio drwy gydol y lleoliad.  Mae'r amgylchedd cefnogol a meithringar hwn yn annog dadansoddi beirniadol, myfyrio a datblygiad personol pob myfyriwr.

Ym mhob lleoliad, bydd myfyrwyr yn profi'r heriau o ddydd i ddydd o ddod yn weithiwr ieuenctid effeithiol mewn lleoliad cymunedol. Byddant yn cael dealltwriaeth o logisteg weithredol rheoli darpariaeth, gan gynnwys canolfan ieuenctid, darpariaeth gynhwysol neu dîm gwaith ieuenctid arbenigol.  Bydd pob myfyriwr yn cael profiad o weithio o fewn tîm staff a chyflwyno rhaglen ddeinamig o weithgareddau i bobl ifanc, gyda'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol sy'n hyrwyddo sgiliau bywyd, perthnasoedd iach a mynegiant a datblygiad personol yn eu cymuned/darpariaeth.  Anogir myfyrwyr i ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi pobl ifanc i archwilio eu rhwystrau unigol i ymgysylltu a/neu ddatblygu. 

Mae'r gweithgarwch presennol wedi'i gyfyngu i ymgysylltu ar-lein, gwaith ieuenctid ar y stryd/teithiau lles lleol, sesiynau 1-1 wedi'u cynllunio a datblygu darpariaeth grŵp bach rheoledig yn y gymuned.  Mae timau bellach yn datblygu prosiectau/sesiynau cyffrous ac arloesol i gynnwys pobl ifanc mewn ffyrdd newydd e.e. clybiau ieuenctid a chyfryngau cymdeithasol ar-lein.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymrwymo i weithio gyda'r nos bob wythnos. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb yn y cymorth i bobl ifanc. I fyfyrwyr ar lefel uwch, mae cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu/creu prosiectau gyda phobl ifanc, yn ogystal â gwerthuso cynnydd grŵp/unigol gyda'r nod o lywio ymarfer yn y dyfodol.

Print

Customer Review

No reviews yet
Write a review
Dweud Eich Dweud!

Dweud Eich Dweud!

Rydyn ni eisiau gweld eich ochr greadigol!

Yn galw ar bawb 11-25 oed, Rydym yn chwilio am straeon, podlediadau, blogiau, erthyglau, barddoniaeth, vlogs, posteri, graffeg, ffotograffiaeth, celf, cerddoriaeth, ffilmiau! Cael eich cynnwys yn cael ei roi ar ein Blog!

Cymrwch ran drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.!

YPSafeguarding - Widget

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

Cysylltwch â Ni:

Ffôn: 07929651466
E-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Ei’n Cyfryngau Cymdeithasol:

FacebookBlue InstaPink TwitterBlue YoutubePink

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.