Canolfan Ieuenctid Llaneirwg

Ynghylch

Mae Clwb Ieuenctid Llaneirwg yn ganolfan brysur yng nghanol cymuned Llaneirwg, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc 11-25 oed a'r gymuned ehangach. Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a chelfyddydol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae gennym stiwdio gerddoriaeth ble gallwch ddysgu sgiliau o amgylch creu rhythm neu ganu, yn ogystal â neuadd chwaraeon dan do i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae gennym gegin hefyd ble gallwch ddysgu coginio. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc. 

Mae'r ddarpariaeth wedi'i lleoli mewn hyb cymunedol sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a mynediad gan gynnwys: tai, cyngor ar arian, i mewn i waith a gwasanaethau llyfrgell.

Mae'r clwb ieuenctid wedi achub fy mywyd, mae'n debyg y byddwn i yn y carchar pe na bawn i'n dod yma ac yn defnyddio'r stiwdio gerddoriaeth ac yn sgwrsio â'r Gweithwyr Ieuenctid' (Person Ifanc)

Oriau Agor

Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.

Dydd Mawrth Plant Iau (Bl 7. 8+9) 6:15-8:45pm

Dydd Iau Plant hŷn (Bl 10+) 6:15-8:45pm

Dydd Gwener Plant hŷn (Bl 10+) 6:15-8:45pm

Rwy'n edrych ymlaen at wneud cwrs Arweinwyr Ifanc a helpu gyda’r Clwb Ieuenctid Iau fel y gwnaeth Callum (Person Ifanc)

Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod:

Print

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.