Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái

Ynghylch

Mae Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái yn ganolfan brysur yng nghalon cymuned Trelái, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.   Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a gweithgareddau corfforol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel.  Mae gennym stiwdio gerddoriaeth a llwyfan ble gallwch wneud cerddoriaeth a pherfformio sioeau. Mae gennym hefyd ardd ble gallwch ddysgu tyfu ffrwythau a llysiau a mynd am dro yn ein llwybr natur. Rydym wedi cael perthynas hirsefydlog â Chanolfan Ieuenctid Stamheim yn Stuttgart ac rydym yn croesawu grwpiau’n rheolaidd ac yn ymweld â'r Almaen. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc.

Mae Canolfan Gweithgareddau Ieuenctid Gogledd Trelái yn gweithio gyda phartneriaid allweddol megis: Dechrau'n Deg, Gwasanaethau Chwarae, grwpiau Eglwysig lleol ac aelodau o'r gymuned. Y diben yw cynnig cyfleoedd lleol i Blant, Pobl Ifanc a'r gymuned.

 

O oedran .. rydw i wastad wedi mwynhau mynd i Ogledd Trelái. Mae'n fan ble gallwch deimlo'n gyfforddus yn bod yn chi eich hun, tra bod gennych weithwyr ieuenctid anhygoel i'ch cefnogi gydag unrhyw beth rydych yn ei wynebu. Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau, cymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau a hyd yn oed fynd ar gyfnewidfa ieuenctid! (Person ifanc)

 Oriau Agor

Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.

Dydd Mawrth Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm

Dydd Iau Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm

Dydd Gwener Plant iau (Bl 6, 7+8) 5.30-8.30pm

Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod:

Print

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.