Canolfan Ieuenctid Butetown

Ynghylch

Mae Butetown yn ganolfan brysur yng nghanol cymuned Butetown, sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gall pobl ifanc ddod i'r ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau cerddoriaeth a chelfyddydol i waith seiliedig ar broblemau, prosiectau sgiliau bywyd a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel. Mae gennym ystafell amlgyfrwng newydd lle gallwch ddysgu sgiliau o amgylch creu fideos, yn ogystal â neuadd chwaraeon dan do i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc.

Mae'r ddarpariaeth wedi'i lleoli mewn canolfan pobl ifanc lle gall pobl ifanc gael amrywiaeth o wasanaethau cymorth a mynediad gan gynnwys: tai, i-mewn-i-waith a llyfrgell.

Oriau Agor

Mae'r clwb Ieuenctid ar agor dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener i bobl ifanc 11-25 oed.

Dydd Mawrth Plant Iau (Bl 6, 7+8) 5:30-8:30pm

Dydd Iau Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm

Dydd Gwener Plant hŷn (Bl 9+) 6-9pm

Darpariaeth mynediad agored yw hon, sy'n golygu y gallwch alw heibio. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod:

Print

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.